Heddiw llawenychwn,
na foed neb yn drist;
mewn carolau seiniwn
foliant Iesu Grist:
dyma ddydd ei eni,
heddiw daeth i’n byd;
teilwng ydyw moli
uwch ei isel grud.
Heddiw ganed Ceidwad
i holl ddynol-ryw,
mewn ymddarostyngiad,
Crist yr Arglwydd yw;
dyna iaith angylion,
dyna iaith y nef
wrth fugeiliaid tlodion
pryd y ganed ef.
Canu wnâi’r angylion,
canwn ninnau nawr,
seinied telyn calon
glod i’w gariad mawr:
Iesu bendigedig
fyddo pwnc ein cân
fore dydd Nadolig
yn ei Eglwys lân.
BERW, 1854-1926
(Caneuon Ffydd 459)
PowerPoint