Hwn ydyw’r dydd y cododd Crist
gan ddryllio pyrth y bedd;
O cyfod, f’enaid, na fydd drist,
i edrych ar ei wedd.
Cyfodi wnaeth i’n cyfiawnhau,
bodlonodd ddeddf y nef;
er maint ein pla cawn lawenhau,
mae’n bywyd ynddo ef.
Gorchfygodd angau drwy ei nerth,
ysbeiliodd uffern gref;
ac annherfynol ydyw’r gwerth
gaed yn ei angau ef.
Esgynnodd mewn gogoniant llawn
goruwch y nefoedd fry;
ac yno mae, ar sail ei Iawn,
yn eiriol drosom ni.
Pob gallu llawn drwy’r byd a’r nef
sydd yn ei law yn awr;
ni rwystra gallu uffern gref
ddibenion Iesu mawr.
ERYRON GWYLLT WALIA, 1803-70
(Caneuon Ffydd 543)
PowerPoint