Hwn ydyw’r dydd y cododd Crist gan ddryllio pyrth y bedd; O cyfod, f’enaid, na fydd drist, i edrych ar ei wedd. Cyfodi wnaeth i’n cyfiawnhau, bodlonodd ddeddf y nef; er maint ein pla cawn lawenhau, mae’n bywyd ynddo ef. Gorchfygodd angau drwy ei nerth, ysbeiliodd uffern gref; ac annherfynol ydyw’r gwerth gaed yn ei […]
O mor ddymunol yw cael cwrdd â’m hoff Anwylyd wrth ei fwrdd, ymlonni yn ei gariad llawn a thawel orffwys ar yr Iawn. Mae’r fath hawddgarwch yn ei bryd, gwledd felys yw, na ŵyr y byd: fy nefoedd yw bod ger ei fron yn siriol wedd ei ŵyneb llon. Ymrwymiad adnewyddol yw i rodio a […]