Hwn yw y sanctaidd ddydd,
gorffwysodd Duw o’i waith;
a ninnau nawr, dan wenau Duw,
gorffwyswn ar ein taith.
Hwn yw’r moliannus ddydd,
cydganodd sêr y wawr;
mae heddiw lawnach testun cân,
molianned pawb yn awr.
Hwn yw y dedwydd ddydd,
daeth Crist o’i fedd yn fyw;
O codwn oll i fywyd gwell,
i ryddid meibion Duw.
Hwn yw’r brenhinol ddydd,
mae Crist i gael ei le;
O Dduw, rho heddiw weled drws
yn agor yn y ne’.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 2)