Pennill 1
Hyfrytaf Iesu, Frenin ar holl natur
Ti, sydd yn Dduw a dyn, y Mab
Ti a drysoraf, fe’th anrhydeddaf
Bri a gogoniant f’enaid i
Pennill 2
Teg ydyw’r dolydd
Tecach yw y coetir
Wisgwyd a lliwiau’r gwanwyn hardd
(Mae) Iesu’n hyfrytach, Iesu yn burach
Fe wna i’r enaid llwm roi mawl
Pont
Am byth, fe’th werthfawrogaf
Trysoraf Di
Am byth, fe’th anrhydeddaf
Dy barchu Di
Am byth rwyt yn disgleirio
Dy lewyrch Di
Yn hardd yn dy ysblander pur, ‘sblander fry
Pennill 3
Teg yw yr heulwen
Tecach olau’r lleuad
A hyfryd luoedd gloyw’r nef
Iesu sy’n loywach, Iesu yn burach
Nag ymffrost holl angylion nef
Pont
Pennill 4
Hyfryd Waredwr, Frenin ‘r holl wledydd
Yn Fab i’r Tad a Mab y Dyn
Clod a gogoniant, mawl ac anrhydedd
Nawr ac am byth a fo i Ti
Hyfrytaf Iesu
Fairest Lord Jesus
WALKER TOMMY (AR)/PD SEISS/VON FALLERSLEBEN
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones
© 2012 McKinney Music, Inc. (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y DU/Eire gan Song Solutions www.songsolutions.org)) Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
CCLI# 7181853
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint