I dawel lwybrau gweddi,
O Arglwydd, arwain fi,
rhag imi gael nhwyllo
gan ddim daearol fri:
mae munud yn dy gwmni
yn newid gwerth y byd
yn agos iawn i’th feddwl
O cadw fi o hyd.
Pan weli fy amynedd,
O Arglwydd, yn byrhau;
pan weli fod fy mhryder
dros ddynion yn lleihau;
rhag im, er maint fy mreintiau
dristáu dy Ysbryd di,
i dawel lwybrau gweddi
yn fynych arwain fi.
Pan fyddo achos Iesu
yn eiddil a di-glod
Pan losgo’r lamp yn isel
wrth ddisgwyl iddo ddod
a thwrf y rhai annuwiol
fel sŵn ystormus li,
ar dawel lwybrau gweddi
O cadw, cadw fi.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 717)
PowerPoint