I ddyddiau’r glanio ar y lloer
y’n ganed, Iôr, bob un,
a gwelsom wyrthiau eraill drwy
y ddawn a roist i ddyn.
Ond dyro weled gwyrthiau mwy –
cael sathru dan ein troed
yr afiechydon creulon, cry’
sy’n blino’r byd erioed.
Rho inni’n fuan weled dydd
na cheir, drugarog Dduw,
na newyn blin na thlodi chwaith,
na neb heb gyfle i fyw.
A dyro weled, drwy dy ras,
ryfeddol wawr yr oes
pan fydd gelynion daear oll
yn ffrindiau wrth y groes.
R. GWILYM HUGHES, 1910-97 © Meirion Hughes
(Caneuon Ffydd: 806)
PowerPoint