Deuwn yn llon at orsedd Duw, ein Ceidwad digyfnewid yw; gwyrth ei drugaredd sydd o hyd ar waith ynghanol helbul byd. Gwir yw y gair, fe ddeil yr Iôr i agor llwybyr drwy y môr; lle byddo ffydd fe ddyry ef ddŵr pur o’r graig a manna o’r nef. Deil i waredu, heb lesgau, ei […]
I ddyddiau’r glanio ar y lloer y’n ganed, Iôr, bob un, a gwelsom wyrthiau eraill drwy y ddawn a roist i ddyn. Ond dyro weled gwyrthiau mwy – cael sathru dan ein troed yr afiechydon creulon, cry’ sy’n blino’r byd erioed. Rho inni’n fuan weled dydd na cheir, drugarog Dduw, na newyn blin na thlodi […]