Carodd Duw y byd cymaint nes
Iddo ddod a marw trosom ni!
Fe gym’rodd bwysau euogrwydd dyn
Rhoddodd floedd o’r groes, ‘Fe orffennwyd’.
Crist yr Iôr, maeddodd y t’wyllwch
Mae E’n fyw, trechodd Ef farwolaeth.
Felly creodd y ffordd
I’n hachub i gyd
Gwir achubwr yw holl fyd.
Canwn glod iddo Ef
Am ei gariad a’i hedd
Molwn Dduw! Molwn Dduw!
Crist, achubwr yr holl fyd.
Awn i sôn wrth bawb
Mae E’n dod yn ôl i’n hadfer ni i’w ogoniant!
Fe ganwn fawl am y brenin mawr
Mewn ysblander hardd, ein Gwaredwr.
Brenin nef, fendigaid Arglwydd
Dyma fe – Iesu, Y Meseia!
Saviour of The World: Ben Cantelon, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dyfan Graves
Copyright © and in this translation 2010 Thankyou Music/Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK & Europe, adm. by Integrity Music, part of the David C Cook family, songs@integritymusic.com