Iesu, Bugail mawr y defaid,
noddfa’r praidd o oes i oes,
cofia heddiw dy ddiadell,
ffrwyth dy ing ar bren y groes;
tro dy ŵyneb, edrych arnom
yn yr awr sancteiddiol hon
a thosturia wrth dy gennad
sydd yn sefyll ger dy fron.
Derbyn di ei ymgyflwyniad,
gwrando’i addunedau dwys,
cymorth ef wrth ymgysegru
ar dy air i roi ei bwys;
treulio’i oes a wnelo mwyach
deg a glaw, ar faes a thwyn,
i fugeilio praidd dy gorlan,
porthi a choleddu’r ŵyn.
Dangos iddo gudd ffynhonnau
y pleserau sy’n dy waith,
gorffwys wrth y dyfroedd tawel
a gorfoledd pen y daith;
gweld y gorlan fawr dragwyddol
ar y bryniau uchel draw,
gweld dy wedd, Ben-bugail tirion,
a’r coronau yn dy law.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 659)
PowerPoint