Iesu, clywaf sŵn dy eiriau
draw o fin y lli;
cerddant ataf o’r pellterau,
“Canlyn fi.”
Uwch y dwndwr, mae acenion
gwynfyd yn dy lef;
llifa’u swyn i giliau’r galon,
Fab y nef.
Minnau iti, Aer y nefoedd,
roddaf ddyddiau f’oes;
rhodiaf, gyda saint yr oesoedd,
ffordd y groes.
Ar dy ôl y tyn myrddiynau
gan ddibrisio bri;
plethant iti salm ar riwiau
Calfarî.
Teithiant i’r trigfannau hyfryd,
canant yn y glyn;
gyda’r llu rho imi wynfyd
Seion fryn.
GWILI, 1872-1936
(Caneuon Ffydd 378)
PowerPoint