Pwy sydd yn codi’r meirw’n fyw?
a’n rhyddhau o’n cyflwr briw?
Ein gobaith yw, unig Fab Duw.
Iesu, dim ond Iesu.
Pwy all agor llygaid dall?
Pwy all ryddhau o law y fall?
Talodd y pris, ein heddwch yw.
Iesu, dim ond Iesu.
Sanctaidd Frenin Nefoedd wyt,
Plyga’r holl angylion i ti,
Syrthiaf finnau nawr o’th flaen,
Iesu, dim ond Iesu.
Pwy sydd yn haeddu’r mawl i gyd?
Pwy sydd a’r enw uchaf un?
Does neb fel ti, safaf yn fud.
Iesu, dim ond Iesu.
Ti’n haeddu’r clod a’r mawl i gyd!
Yr enw uchaf drwy’r holl fyd,
Does neb fel ti, safaf yn fud.
Iesu, dim ond Iesu!
Iesu, dim ond Iesu!
Jesus Only Jesus: Matt Redman, Chris Tomlin, Christy Nockels, Kristian Stanfill, Nathan Nockels, Tony Wood, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Copyright © and in this translation 2013 Thankyou Music (Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK & Europe, adm. by Integrity Music, part of the David C Cook family, songs@integritymusic.com) /worshiptogether.com Songs/Worship Together Music/sixsteps Music/Sixsteps Songs/Said and Done Music/A Thousand Generations Publishing/Sweater Weather Music (Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK, adm. by Integrity Music, part of the David C Cook family, songs@integritymusic.com) /Sony/ATV Cross Keys Publishing.