Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml,
Iesu, dy bersawr sy’n denu dy bobl.
Ac wrth glosio atat ti
‘Rwy’n profi cyffro a heddwch gwir,
Teimlo cariad a hedd
O weled dy wedd,
Meseia.
A neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd bywiol;
Rhoi fy hun yn llaw’r Achubwr dwyfol.
Neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd bywiol;
Rhoi fy hun yn llaw’r Achubwr dwyfol.
Dyma’r sanctaidd le y caf weled dy wedd,
Meseia.
Iesu, dy gariad sy’n llenwi dy deml,
Iesu, dy ras di sy’n denu dy bobl.
Ac wrth glosio atat ti
Rwy’n profi nerth i fynd ‘nôl i’r byd,
Nes fy rhoi yn y bedd,
Pan welaf dy wedd,
Meseia.
Cytgan
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,
Jesus your beauty is filling this temple (Holy River) : Sue Rinaldi a Caroline Bonnett
© 1997 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 80)
PowerPoint