Iesu dyrchafedig,
Geidwad bendigedig,
mawl a’th erys di;
Arglwydd llawn tosturi,
edrych at ein gweddi,
Iesu, cymorth ni;
trugarha, O Arglwydd da,
rho faddeuant, rho dangnefedd,
dwg ni i’th orfoledd.
Ymaith, ffôl amheuon,
heriaf bob treialon,
Iesu yw fy rhan;
canaf ymhob replica tywydd
os caf wenau f’Arglwydd,
gobaith f’enaid gwan;
O fy Nuw, fy ngweddi clyw,
os cyrhaeddaf nef y nefoedd
molaf di’n oes oesoedd.
EMRYS, 1813-73
(Caneuon Ffydd 383)
PowerPoint