Arglwydd, gad im dawel orffwys dan gysgodau’r palmwydd clyd lle yr eistedd pererinion ar eu ffordd i’r nefol fyd, lle’r adroddant dy ffyddlondeb iddynt yn yr anial cras nes anghofio’u cyfyngderau wrth foliannu nerth dy ras. O mor hoff yw cwmni’r brodyr sydd â’u hŵyneb tua’r wlad heb un tafod yn gwenieithio, heb un fron […]
Iesu dyrchafedig, Geidwad bendigedig, mawl a’th erys di; Arglwydd llawn tosturi, edrych at ein gweddi, Iesu, cymorth ni; trugarha, O Arglwydd da, rho faddeuant, rho dangnefedd, dwg ni i’th orfoledd. Ymaith, ffôl amheuon, heriaf bob treialon, Iesu yw fy rhan; canaf ymhob replica tywydd os caf wenau f’Arglwydd, gobaith f’enaid gwan; O fy Nuw, fy […]
Nesawn, nesawn mewn myfyrdodau pur at fwrdd ein Harglwydd i gydgofio’i gur; a rhoed y Brenin mawr ar hyn o bryd ei ŵyneb hoff tra byddom yma ‘nghyd. O am gael ffydd i gydfwynhau y wledd; ‘does un o’i bath i’w chael tu yma i’r bedd; y cariad mawr a unodd Dduw a dyn sydd […]
O Iesu mawr, pwy ond tydi allasai farw drosom ni a’n dwyn o warth i fythol fri? Pwy all anghofio hyn? Doed myrdd ar fyrdd o bob rhyw ddawn i gydfawrhau d’anfeidrol Iawn, y gwaith gyflawnaist un prynhawn ar fythgofiadwy fryn. Nid yw y greadigaeth faith na’th holl arwyddion gwyrthiol chwaith yn gytbwys â’th achubol […]