Iesu hawddgar, rho dy feddwl
anhunanol ynof fi,
fel y parchaf eiddo eraill
megis ag y gwnaethost ti:
gostyngedig fuost beunydd
ac yn ddibris buost fyw;
dyrchafedig wyt ym mhobman
am ymwadu â ffurf Duw.
Gwn dy wneuthur ar lun dynion;
ar ffurf gwas y treuliaist d’oes
a’th ddarostwng di dy hunan,
ufuddhau hyd angau’r groes:
ti biau’r enw uwch pob enw,
iti plyg pob glin drwy’r wlad;
fe’th gyffesŵn di yn Arglwydd
er gogoniant Duw ein Tad.
O. M. LLOYD, 1910-80 © Gwyn M. Lloyd Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 341)
PowerPoint