Iesu, ‘Mrenin mawr a’m Priod,
Bydd wrth raid
Imi’n blaid
I orchfygu pechod.
Tra fwy’n trigo’n yr anialwch,
Gweld yn wir
D’wyneb pur
Yw fy ngwir ddiddanwch.
Iesu, aethost Ti â’m calon;
F’enaid cu’n
Llechu sy’n
Ddifrad rhwng dy ddwyfron.
Pâr im aros mwy’n dy freichiau:
Boed fy nyth
Dedwydd byth
Yn dy ddilyth glwyfau.
Pan fwy’n sengi llwybrau angau,
Rhag pob braw,
Rho dy law,
Dangos im dy glwyfau.
Nertha ‘mlinion draed i ddringo
I fyny o hyd
‘Maes o’r byd,
Atat i breswylio.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 729)