Iesu, rhown iti bob anrhydedd,
Iesu, rhown iti yr holl glod.
Uned dae’r a nef i ddyrchafu
Yr enw sydd goruwch holl enwau’r rhod.
O, plygwn bawb ein glin mewn gwir addoliad,
Can’s plygu glin yw’n dyled ger ei fron.
Cyffeswn bawb yn awr
Ef yw’r Crist, Ef yw Mab Duw,
Frenin Iôr, clodforwn di yn llon.
Pob anrhydedd, pob bendith a gallu
sy’n eiddo’i ti, sy’n eiddo’i ti.
Pob anrhydedd, pob bendith a gallu
Sy’n eiddo’i ti, sy’n eiddo’i ti,
Iôr, Iesu Grist, Gwir Fab y bywiol Dduw.
(Grym Mawl 2: 77)
Chris Bowater: Jesus shall take the highest honour, Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Roberts
Hawlfraint © 1988 Sovereign Lifestyle Music.