Iesu, ti yw ffynnon bywyd,
bywyd dedwydd i barhau;
pob rhyw gysur is y nefoedd
ynot ti dy hun y mae:
ni all croes na gwae na chystudd
wneuthur niwed iddynt hwy
gafodd nerth i wneud eu noddfa
yn dy ddwyfol, farwol glwy’.
Dring, fy enaid, i’th orffwysfa
uwch y gwynt tymhestlog, oer,
maes o sŵn rhuadau’r llewod,
maes o gyrraedd tonnau’r môr;
mi gaf yno, dan bob blinder,
hyfryd dreulio ‘nyddiau i maes
heb gael briw na chlais nac archoll
gan neb rhyw elynion cas.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 336)
PowerPoint