Pennill 1
Iesu’th dosturi yw f’unig ble
S’dim amddiffyniad, mae ‘meiau’n rhy fawr
Y gorau a wnes i a’th glwyfodd ar groes
Iesu’th dosturi yw f’unig ble
Pennill 2
Iesu’th dosturi yw f’ymffrost i
Y rhinwedd a hawliaf a sail ‘ngobaith i
Lle bynnag rwy’n brin dyna yw f’angen i
Iesu’th dosturi yw f’ymffrost i
Corws
Clod i’r Brenin ddygodd fy mai
A mi’n euog cymerodd fy lle
O mor dda y buost Ti i mi
Canaf am dy dosturi
Pennill 3
Iesu’th dosturi yw ‘ngorffwys i
Â’r gelyn a’m hofnau yn drwm arnaf i
Yn gysur i afael boed farw neu fyw
Iesu’th dosturi yw ‘ngorffwys i
Corws
Pennill 4
Iesu’th dosturi yw fy mwynhad
Am byth fe ddyrchafaf fy nghalon a’m llais
I ganu am drysor sy’n drech na phob dim
Iesu’th dosturi yw fy mwynhad
Corws
Iesu’th dosturi
Jesus your mercy (Bob Kauflin | Jordan Kauflin | Nathan Stiff)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2019 Sovereign Grace Praise (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Sovereign Grace Worship (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Getty Music Publishing (Gwein. gan Music Services, Inc.)
Jordan Kauflin Music (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
CCLI # 7198582
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint