logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ildio Eto

Pennill 1
Ti’n troi y byrddau drosodd
A’n galw ni yn ôl
I roi’n bywyd ar yr allor
A’r pethau cyntaf oll
Ti’n clirio cwrt y deml
Glanhau pob dim yn llwyr
O ni yw Dy eiddo Dithau
D’Eglwys ydym ni

Corws 1
Ni yw Dy bobl
Ti yw ein Duw
Ni yw Dy deml
Gwna ni’n sanctaidd fel tydi

Pennill 2
Rwyt ti’n gweld pobl sanctaidd
A phraidd sydd er dy fwyn
Cenhedlaeth wedi’i ddewis
A phobl ar eu glin
Dduw, helpa ni i’th blesio
Di yn y mannau cudd
Yn nhragwyddoldeb mae pob dim o bwys i Ti

Corws 2
Ni yw Dy bobl
Ti yw ein Duw
Ni yw Dy deml
Gwna ni’n sanctaidd fel tydi

Dy blant ŷm ninnau
Gysegrwyd i Ti
Dduw, er D’ogoniant
Gwna ni’n sanctaidd fel tydi

Pont 1
Noda’th bobl â dy gwmni
Gwna ni yn aelwyd a fydd wrth dy fodd

Helpa ni i wrando’th gerydd
O Iôr, ein Bugail
Ti’n gwneud popeth da
Dy gariad cadarn ac mor dyner
Dy ddeddf yn berffaith
A dy farn yn wir
Wrth i’n ddod i ildio eto
Wrth i’n ddychwelyd, gwnei ein hadfer ni
Wrth i ni ildio, gwnei ein hadfer ni

Corws 1 & 2

Pont 2 (X4)
Os geilw
Atebwn
Heb oedi
Fe redwn
Dduw, ‘dan ni angen ildio
‘Dan ni’n ildio eto

Byrdwn
‘Dan ni’n ildio eto

Ildio Eto
Resurrender (Brooke Ligertwood a Chris Davenport)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2021 Hillsong MP Songs (Gwein. gan Hillsong Music Publishing UK)
Hillsong Music Publishing Australia (Gwein. gan Hillsong Music Publishing UK)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023