Iôr anfeidrol, yn dy gwmni
daw gorfoledd imi’n llawn,
ymollyngaf yn dy gariad
ac ymgollaf yn dy ddawn;
dy gadernid sy’n fy nghynnal,
mae dy ddoniau yn ddi-ri’,
cyfoeth ydwyt heb ddim terfyn,
mae cyflawnder ynot ti.
Iôr anfeidrol, yn dy gwmni
mae fy nos yn troi yn ddydd,
mae rhyfeddod dy oleuni
heddiw yn bywhau fy ffydd,
gwelaf dy sancteiddrwydd dwyfol
ymhob lle yn ddisglair iawn,
seinia holl ganiadau’r ddaear
er dy fwyn, yn foliant llawn.
Iôr anfeidrol, yn dy gwmni
daw’r tragwyddol ataf fi,
clywaf lais fy annwyl Iesu
yn cyhoeddi d’eiriau di;
trwyddo ef daw grym dy gariad
imi’n feddyginiaeth gref,
a chaf weled dy ogoniant
yn ddiderfyn ynddo ef.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd 195)
PowerPoint