Llawryfon rhowch ar ben
Yr Oen ar orsedd nef.
Ni chân angylaidd nefol gôr
I neb ond iddo Ef.
Fy enaid cân i’r Hwn
Fu farw yn dy le;
Trwy dragwyddoldeb nid oes gwell
Ar ddae’r nac yn y ne.
Cododd o’r bedd yn fyw.
Gorchfygodd Angau gawr.
Ei rym achubol welir yn
Ei fuddugoliaeth fawr.
Esgynnodd Iesu fry
A chanwn fyth Ei glod;
Trwy aberth Hwn, tragwyddol oes
Ddaw inni uwch y rhod.
Ef, Brenin cariad yw,
O gwêl ei glwyfau Ef.
Fe’u gwelir mewn gogoniant pur
Yn uchder nef y nef.
Mae holl angylion nef
Yn plygu pen bob un,
Er mwyn osgoi y disglair wawl
Ddaw o’i ddirgelion cun.
Mae teyrnas Crist gerllaw –
Coronwch Frenin hedd.
Na foed rhyfeloedd mwy drwy’r byd,
Dim trais na sŵn y cledd –
Mae dinas acw fry
Llawn o’i ogoniant Ef;
A chân cenhedloedd byd bob un
Ei foliant yn y nef.
Rhowch goron ar ei ben –
Penadur amser yw;
Creawdwr y planedau oll
Yn ei ogoniant wiw.
Wel henffych, Brynwr cu,
Fu farw dros fy mai;
Cân, clod a moliant fydd i Ti
Yn awr ac yn ddi-drai.
(Grym Mawl 2: 21; Grym Mawl 1: 26)
Matthew Bridges a Godfrey Thring: Crown him with many crowns, Cyfieithiad Awdurdodedig: Hywel M. Griffiths
PowerPoint