Pennill 1
Dyma berffaith Fab ein Duw
Diniwed ym mhob dim
Yn cerdded yn y llwch ‘da ti a fi
Yn gwybod beth yw byw
Ac yn deall ein galar ni
Gwr Gofidiau, Mab Dioddefaint yw
Corws
Dagrau gwaed
Sut all hyn fod
Bod ‘na Dduw sy’n wylo
Ac yn colli gwaed
O mola’r Un
A ddaw ataf fi
Fab Dioddefaint, Haleliwia Iddo Ef
Pennill 2
Mae rhai yn meddwl wir
Dy fod yn bell i ffwrdd
Ond o’th drugaredd, f’ymlid i a wnest
I bechadur gras wyt Ti
Denu’r bregus i dy gôl,
Ac yn dy glwyfau di y cawn ni’r prawf
Ie, yn dy glwyfau di y cawn ni’r prawf
Corws
Dagrau gwaed
Sut all hyn fod
Bod ‘na Dduw sy’n wylo
Ac yn colli gwaed
O mola’r Un
A ddaw ataf fi
Fab Dioddefaint, Haleliwia Iddo Ef
Pont (X2)
Dy groes, fy rhyddid
Dy glwyfau, yn gwella
Pob clod i Iesu
Moliant i Dduw’n y Nefoedd
Dy waed yn siarad
Dy gariad yn estyn
Pob clod i Iesu
Moliant i Dduw’n y Nefoedd
Moliant i Dduw’n dragywydd
Moliant i Dduw’n dragywydd
Corws
Dagrau gwaed
Sut all hyn fod
Bod ‘na Dduw sy’n wylo
Ac yn colli gwaed
O mola’r Un
A ddaw ataf fi
Fab Dioddefaint, Haleliwia Iddo Ef
Mab Dioddefaint
Son of Suffering (Aaron Moses, David Funk, Matt Redman a Nate Moore)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2021 Maverick City Publishing; Mouth Of The River Music; Aaron Moses Chiriboga Music; Integrity Worship Music; Said And Done Music; Bethel Music Publishing; David Funk
(Gwein. Essential Music Publishing LLC, Integrity Music Ltd, Song Solutions)
CCLI 7253970
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint