Mae enw Crist i bawb o’r saint
fel ennaint tywalltedig,
ac yn adfywiol iawn ei rin
i’r enaid blin, lluddedig.
Pan fyddo f’enaid yn y llwch,
a th’wyllwch fel y fagddu,
mae dawn a nerth i’m dwyn yn ôl
yn enw grasol Iesu.
Gobeithiwch ynddo, bawb o’r saint,
er cymaint yw eich gofid,
gan wybod bod eich Priod gwiw
yn ffyddlon i’w addewid.
IAGO TRICHRUG, 1779-1844
(Caneuon Ffydd 297)
PowerPoint