Cyduned Seion lân mewn cân bereiddia’i blas o fawl am drugareddau’r Iôn, ei roddion ef a’i ras. Ble gwelir cariad fel ei ryfedd gariad ef? Ble bu cyffelyb iddo erioed? Rhyfeddod nef y nef! Fe’n carodd cyn ein bod, a’i briod Fab a roes, yn ôl amodau hen y llw, i farw ar y groes. […]
Mae enw Crist i bawb o’r saint fel ennaint tywalltedig, ac yn adfywiol iawn ei rin i’r enaid blin, lluddedig. Pan fyddo f’enaid yn y llwch, a th’wyllwch fel y fagddu, mae dawn a nerth i’m dwyn yn ôl yn enw grasol Iesu. Gobeithiwch ynddo, bawb o’r saint, er cymaint yw eich gofid, gan wybod […]