logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae enw Iesu Grist i mi

Mae enw Iesu Grist i mi
Mor fwyn a llais o’r nef,
Mae’n gwneud i’m henaid roddi llam –
Ei hyfryd enw Ef.
 
O! Enw’r Iesu, hyfryd yw;
Enw fy Mhrynwr i a’m Duw;
Enw sy’n gwneud i’m lawenhau
Yw hyfryd enw Crist.

Mae’n sôn am gariad Un a ddaeth
I farw i’m rhyddhau,
Mae’n dweud am werthfawr waed y groes,
Yn hwn caf lawenhau.

Mae’r Enw hwn yn sôn am Un
A gydymdeimla’n driw,
Sy’n gwybod am fy mlinder dwfn
Yn well na neb a glyw.

Iesu yw’r Enw a garaf i,
Yr Un sy’n fêl i’m clyw,
Nid oes ar ddaear faith i gyd
All ddweud gwerth cymaint yw.

Mae’r Enw hwn fel ennaint drud
Ar lwybrau garw gwyw,
A Hwn fydd yno gyda mi
Wrth ddringo at fy Nuw.

Ac yno, gyda’r oll a ddaeth,
Drwy’r gwaed, yn rhydd o boen,
Caf ganu eto newydd gân
I Enw Iesu’r Oen.

There is a name I love to hear: F. Whitfield. Cyfieithiad awdurdodedig: Peter R Hallam
©1946 Salvationist Publishing & Supplies. Gweinyddir gan CopyCare.

(Grym Mawl 2: 128)

PowerPoint