logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae ffrydiau ‘ngorfoledd yn tarddu

Mae ffrydiau ‘ngorfoledd yn tarddu
o ddisglair orseddfainc y ne’,
ac yno’r esgynnodd fy Iesu
ac yno yr eiriol efe:
y gwaed a fodlonodd gyfiawnder,
daenellwyd ar orsedd ein Duw,
sydd yno yn beraidd yn erfyn
i ni, y troseddwyr, gael byw.

Cawn esgyn o’r dyrys anialwch
i’r beraidd baradwys i fyw,
ein henaid lluddedig gaiff orffwys
yn dawel ar fynwes ein Duw:
dihangfa dragwyddol geir yno
ar bechod, cystuddiau a phoen,
a gwledda i oesoedd diderfyn
ar gariad anhraethol yr Oen.

O fryniau Caersalem ceir gweled
holl daith yr anialwch i gyd,
pryd hyn y daw troeon yr yrfa
yn felys i lanw ein bryd;
cawn edrych ar stormydd ac ofnau
ac angau dychrynllyd a’r bedd,
a ninnau’n ddihangol o’u cyrraedd
yn nofio mewn cariad a hedd.

DAVID CHARLES, 1762-1834

(Caneuon Ffydd 747)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015