Mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw
yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw;
er profi gorthrymder neu newyn neu gledd,
‘does ball ar y cariad agorodd y bedd.
Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gad wedi troi
Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gelyn yn ffoi;
mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw
yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw.
Er dychryn marwolaeth, er pechu ein byw,
er erlid y diafol, mae noddfa gan Dduw;
er cymaint temtasiwn danteithion y byd
mae’r grym gurodd angau’n ein cynnal o hyd.
Ni all undim heddiw nac eto i ddod,
nac uchder na dyfnder nac unpeth sy’n bod,
fyth, fyth ein gwahanu na meddwl ein dwyn
o gyrraedd gras Duw roes ei Fab er ein mwyn.
SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)
(Caneuon Ffydd 564)
PowerPoint