Anfon, Arglwydd, dy oleuni ar y dyfroedd tywyll, du sydd â’u cerrynt yn cydgroesi gan fy mwrw o bob tu; dyro, Arglwydd, fraich cynhaliaeth, rho dy nerth i achub un na all nofio eiliad arall yn ei fymryn nerth ei hun. Methu credu geiriau dynion, gweld eu hanwadalwch hwy; chwerwi wrth wendidau eraill, gweld fy […]
Arglwydd, maddau in mor dlodaidd fu ein diolch am bob rhodd ddaeth o’th ddwylo hael i’n cynnal fel dy bobol wrth dy fodd: yn dy fyd rhown ynghyd ddiolch drwy ein gwaith i gyd. Arglwydd, maddau’n difaterwch at ddiodde’r gwledydd draw lle mae’r wybren glir yn felltith a’r dyheu am fendith glaw: lle bo loes […]
Boed mawl i Dduw gan engyl nef a chlod gan ddynion fyrdd; mor rhyfedd yw ei gariad ef, mor gyfiawn yw ei ffyrdd. Mor ddoeth yw cariad Duw at ddyn sydd wan dan faich ei fai: yn ddyn mewn cnawd daeth Duw ei hun i’w nerthu a’i lanhau. O’i gariad doeth, ein Duw mewn cnawd […]
Drwy dy weision ddoe cyhoeddaist ar ein daear air y ne’, cerydd barn, rhyddhad trugaredd, yn cytseinio mewn un lle: croes Calfaria fu’r uchafbwynt mawr erioed. Arglwydd, danfon dystion heddiw gyda’u calon yn dy waith i gyhoeddi’r hen wirionedd eto’n newydd yn ein hiaith; er pob newid ‘r un o hyd yw sail ein ffydd. […]
Duw sy’n codi ei dŷ, Duw sy’n codi ei dŷ Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig; Y mae’n dŷ o feini byw, Daw o law’r tragwyddol Dduw, Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig. O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ ar y graig; […]
Dwed, a flinaist ar y gormes, lladd a thrais sy’n llethu’r byd? Tyrd yn nes, a chlyw ein neges am rym mwy na’r rhain i gyd: cariad ydyw’r grym sydd gennym, cariad yw ein tarian gref, grym all gerdded drwy’r holl ddaear, grym sy’n dwyn awdurdod nef. Cariad sydd yn hirymaros a’i gymwynas heb ben […]
Gogoniant fo i’r Arglwydd a ddug ein beiau i gyd i’w hoelio ar Galfaria i farw yno ‘nghyd; cyfiawnder yw ei enw, trugaredd yw ei lef, a garodd ei elynion yn fwy na gwychder nef. Mae’n diffodd fflamau gofid, mae’n difa brath pob clwy’; fe roes y cyfan unwaith a’i fawredd eto’n fwy dihangodd o […]
Grym y Gair a roed ar gerdded gam wrth gam drwy wledydd byd wrth i bobloedd glywed datgan yn eu geiriau’r hanes drud: diolch wnawn am bob cyfieithydd a gysegrodd ddawn a gwaith er rhoi allwedd porth dy Deyrnas yn nhrysorfa llawer iaith. Grym y Gair a ysbrydolodd ein cyfieithwyr cynnar ni, a’u holynwyr fu’n […]
Iesu, Iesu, Arglwydd fy nghân, Ar d’alwad dyner cerddais yn rhydd; Derbyn fy niolch yn newydd bob dydd, Derbyn fy oes yn fawlgan i ti. Iesu, Iesu, cymer fy oes: Iesu, Iesu, rhoddaf i ti Bopeth, pob awr, ti biau hwy oll: Iesu fy Ngheidwad, ‘r eiddot wyf fi. Iesu, Iesu, rho imi’r ddawn O […]
Mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw; er profi gorthrymder neu newyn neu gledd, ‘does ball ar y cariad agorodd y bedd. Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gad wedi troi Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gelyn yn ffoi; mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy […]