Ysbryd yr Arglwydd
Mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf fi,
ei law ef a’m tywys am ymlaen;
danfonodd fi i rannu’r newydd da
a seinio nodyn gobaith yn fy nghân.
Fe’m galwodd i gyhoeddi’r newydd da
fod cyfoeth gwir ar gael i deulu’r tlawd,
ac am ein bod drwy Grist yn blant i Dduw
cofleidiwn bawb yn gyfaill ac yn frawd.
Fe’m galwodd i gyhoeddi’r rhyddid sydd
i garcharorion blin o fewn eu cell,
fod Duw ein Tad yn maddau pob rhyw fai,
yn estyn inni’r rhodd o ‘fory gwell.
Fe’m galwodd, do, i adfer i rai dall
y ddawn i weld yn glir y byd a’u stad,
a chodi’r un sy’n gorwedd dan ei bla
a chynnig iddo yntau wir iachâd.
Fe’m galwodd i gyhoeddi yma’n glir
ei bod hi nawr yn flwyddyn jwbilî:
cawn flasu oll o arlwy ffafor Duw
a phrofi grym ei gariad ynom ni.
PETER M. THOMAS Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 279)
PowerPoint