Mae’n llond y nefoedd, llond y byd,
llond uffern hefyd yw;
llond tragwyddoldeb maith ei hun,
diderfyn ydyw Duw;
mae’n llond y gwagle yn ddi-goll,
mae oll yn oll, a’i allu’n un,
anfeidrol, annherfynol Fod
a’i hanfod ynddo’i hun.
Clyw, f’enaid tlawd, mae gennyt Dad
sy’n gweld dy fwriad gwan,
a Brawd yn eiriol yn y nef
cyn codi o’th lef i’r lan:
cred nad diystyr gan dy Dad
yw gwrando gwaedd dymuniad gwiw,
pe byddai d’enau yn rhy fud
i’w dwedyd gerbron Duw.
EDWARD JONES, 1761-1836
(Caneuon Ffydd 215)
PowerPoint