logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r dyffryn yn dywyll (Fy Nuw yw f’Angen Oll)

Pennill 1
Mae’r dyffryn yn dywyll
(A’r) golau’n wan wrth fy nhraed
Ond beth bynnag ddaw i mi
Fy Nuw yw f’angen oll

Pennill 2
Mor ddisglair yw’r trysor
(Mae) bywyd yn cynnig i mi
Ond beth bynnag yw’r pleser
Fy Nuw yw f’angen oll

Corws
Ef yw fy ngrym pan fethaf gario ‘mlaen
Hedd pan mae fy nerth yn wan
Gobaith pan fo’r nos yn teimlo’n hir
Ef yw fy nghân, Ef a’m gwaredodd i
Llawenydd, rwyf nawr yn rhydd
Clod, clod fydded nawr i ‘Nhad
Fy Nuw yw f’angen oll

Pennill 3
Byr, byr yw fy nyddiau
(Cyn hir) bydd fy nhaith i ar ben
Ond ceisiaf Waredwr
Diwallodd f’angen i
Diwallodd f’angen i

Corws
Pont
Mae’n Duw ni mor fawr, mor gryf ac mor nerthol
Does dim y tu hwnt Iddo Ef
Mae’n Duw ni mor fawr, mor gryf ac mor nerthol
Does dim y tu hwnt Iddo Ef
Ef wnaeth y mynyddoedd a chreodd y moroedd
Duw roddodd y ser yn eu lle
Mae’n Duw ni mor fawr, mor gryf ac mor nerthol
Does dim y tu hwnt Iddo Ef

Tag
Does dim y tu hwnt Iddo Ef

Corws

Tag
Clod, clod fydded nawr i ‘Nhad
Fy Nuw yw f’angen oll

Fy Nuw yw f’Angen Oll
My God is All I Need (Fiona Aghajanian, Harrison Druery, Jaywan Maxwell, Jonny Robinson, Rich Thompson, Ruth Harms Calkin a Tiarne Tranter)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© CityAlight Music; Nuggets of Truth Music
(Gwein. Integrity Music Ltd)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025