Mae’r Iesu’n fwy na’i roddion,
mae ef yn fwy na’i ras,
yn fwy na’i holl weithredoedd
o fewn ac o’r tu faes;
pob ffydd a dawn a phurdeb,
mi lefa’ amdanynt hwy,
ond arno’i hun yn wastad
edrycha’ i’n llawer mwy.
Gweld ŵyneb fy Anwylyd
wna i’m henaid lawenhau
drwy’r cwbwl ges i eto
neu fyth gaf ei fwynhau;
pan elont hwy yn eisiau,
pam byddaf fi yn drist
tra caffwyf weled ŵyneb
siriolaf Iesu Grist?
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 325)
PowerPoint