Mae’r lle sancteiddiolaf yn rhydd,
Fe rwygodd f’Anwylyd y llen,
A Haul y Cyfiawnder y sydd
Yn golau’r holl nefoedd uwchben;
Mae’r dyrfa’n anfeidrol o faint,
Ac eto ni welaf mo’r un –
Angylion, seraffiaid na saint –
Neb fel fy Anwylyd ei Hun.
‘D oes mesur amseroedd byth fry,
Dim oriau cyffelyb i’r byd;
Mynd heibio mae oesoedd di-ri’
Wrth ganu i’r Iesu ynghyd;
‘R holl nefoedd, wrth weled ei ras,
Sy’n synnu, yn canu’n fwy hy
Ganiadau newyddion eu blas –
Wel, dyma’r digrifwch sydd fry.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 656)