Mae’r nos yn fwyn ym Methlehem
a chlyd yw’r gwely gwair,
mae’r llusern fach yn bwrw gwawl
dros wyneb baban Mair.
O’r dwyrain pell daw doethion dri
i geisio Brenin nef
gan roi yr aur a’r thus a’r myrr
yn offrwm iddo ef.
Ar faes y preiddiau dan y sêr
yn hedd y dawel nos
bugeiliaid sydd yn oedi’n syn
i wrando’r anthem dlos.
Mae’r clychau’n anfon dros y tir
eu melodiau glân
a daw’r angylion tua’r fro
i ganu geiriau’r gân:
“Gogoniant i’r goruchaf Dduw,
tangnefedd i’r holl fyd;
ewyllys da a fyddo rhan
y ddaear oll i gyd.”
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 431)
PowerPoint