Pennill 1
Edrychaf arno fe
Fu farw yn fy lle,
Cysgodir fi rhag gwarth
Gan Iesu.
Pennill 2
Trwy ddiodde a thrwy boen
Ein gobaith yw yr Oen
Trwy ffydd a gras fe drown
At Iesu.
Cytgan
Sefyll nawr ar fannau agored hael dy ras
Canwn glod i ti a bloeddiwn d’enw mas
Fe agorwn y drws i ti ein Harglwydd Dduw,
Rhoi’r hun yn aberth, plygu’i lawr o’th flaen.
Pennill 3
Ti sydd yn cyfiawnhau,
Dy waed sy’n fy nglanhau,
Yn rhydd, rwyf nawr am fyw
I Iesu
Pennill 4
Cariad fel alaw bur
O’r nef yn swyno sydd
Mae ’nghalon i yn rhydd
Yn Iesu
Pont
F’enaid llosg o’m mewn, i Iesu’n unig
F’enaid llosg o’m mewn, i’r dyrchafedig x4
Mannau agored
CCLI # 7172011
WIDE OPEN SPACES (MATHIAS | RICHLEY | WOOLRIDGE)
© Song Solutions Daybreak (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
cyf. Arfon Jones
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint