Cyflwyniad (X2)
Boed i bob peth sydd yn fyw
Foli’r Iôr
Foli’r Iôr
Pennill 1
Rwy’n moli’n y dyffryn
(Rhoi) mawl ar y mynydd
Rwy’n moli’n fy sicrwydd
A pan rwyf yn amau
Rwy’n moli yn unig
(Pan) mae’r lluoedd o’m tu
Ond o flaen fy moliant
Mae’r gelyn yn boddi
Rhag-gorws
Tra ‘mod i’n anadlu
Mae gen i reswm i
Corws 1
Foli’r Iôr, f’enaid i
Mola’r Iôr, f’enaid i
Pennill 2
Rwy’n moli tra’n hapus
Ac rhof fawl pan ‘dwi ddim
Rwy’n moli gan wybod
Dy fod wrth y llyw
Fy arf i yw moliant
Mae’n fwy na gwneud sŵn
Fy mawl sy’n gyhoeddiad
Ddaw â Jericho lawr
Rhag-gorws
Tra ‘mod i’n anadlu
Mae gen i reswm i
Corws 2
Foli’r Iôr, f’enaid i
Mola’r Iôr, f’enaid i
Ni allaf dewi, mae f’Arglwydd yn fyw
Sut allwn beidio â sôn
Mola’r Iôr, f’enaid i
Pont (X2)
Rwy’n moli, Ti’n sofran
Moli, Ti’n Ben
Moli, fe godaist a chwalu y bedd
Moli, Ti’n ffyddlon
Moli, Ti’n driw
Moli, ‘Does neb sydd yn debyg i Ti
Corws 3
Mola’r Iôr, f’enaid i
Mola’r Iôr, f’enaid i
Mola’r Iôr, f’enaid i
Mola’r Iôr, f’enaid i
Ni allaf dewi, Mae f’Arglwydd yn fyw
Sut allwn beidio â sôn
Ni allaf dewi, Mae f’Arglwydd yn fyw
Sut allwn beidio â sôn
Ni allaf dewi, Mae f’Arglwydd yn fyw
Sut allwn beidio â sôn
Mola’r Iôr, f’enaid i
Diweddglo (X2)
Boed i bob dim sydd yn fyw
Foli’r Iôr
Foli’r Iôr
Mawl
Praise (Brandon Lake, Chandler Moore, Chris Brown, Cody Carnes, Pat Barrett a Steven Furtick)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© Brandon Lake Music; For Humans Publishing; Maverick City Publishing; Capitol CMG Genesis; Capitol CMG Paragon; Housefires Sounds; Writer’s Roof Publishing; Music by Elevation Worship Publishing
(Gwein. Capitol CMG Publishing, Essential Music Publishing LLC)
CCLI 7253959
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint