Mawrygwn di er mwyn dy groes
am gynnal tadau’r ffydd
a’u tywys drwy bob cur a loes
o’u rhwymau caeth yn rhydd:
ti roddaist iddynt ras y nef
a’r weledigaeth glir,
dy Ysbryd di oedd yn eu llef
wrth ddadlau hawliau’r gwir.
Tydi, yr Archoffeiriad mawr,
a roddaist iddynt nerth
i gerdded tua thoriad gwawr
dros lawer llwybyr serth:
a hwythau yn braenaru’r tir
bendithiaist hwy bob un,
eu hundeb oedd mewn undeb gwir
â’th Ysbryd di dy hun.
Am waith yr heuwr derbyn di
ein diolch, dirion Dad,
a rho gyffelyb ddawn i ni
i fedi ffrwyth yr had:
i’r ‘fory newydd, O ein Duw,
dy law i’n tywys dod,
dysg ni i gadw’r fflam yn fyw
er mwyn dy air a’th glod.
T. R. JONES © E. M. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 270)
PowerPoint