Grist Gorchfygwr, byth deyrnasi, Ceidwad, Brenin Glân, Iôr y nef, Ti a’n cynheli, Gwrando ar ein cân: Rhown y goron ar dy ben, Yn fawr dy glod, yn fythol fyw. Gair mewn cnawd, y gwir ddatguddi, Mab y Dyn, ein brawd; Nerth a mawredd Ti a’u cuddi Trwy dy eni tlawd. Gwas dioddefus wyt a […]
Mawrygwn di er mwyn dy groes am gynnal tadau’r ffydd a’u tywys drwy bob cur a loes o’u rhwymau caeth yn rhydd: ti roddaist iddynt ras y nef a’r weledigaeth glir, dy Ysbryd di oedd yn eu llef wrth ddadlau hawliau’r gwir. Tydi, yr Archoffeiriad mawr, a roddaist iddynt nerth i gerdded tua thoriad gwawr […]
O! Iesu’r archoffeiriad mawr, Rhof f’enw ar dy fraich i lawr; Rho eilwaith, mewn llythrennau clir, Ef ar dy ddwyfron sanctaidd bur. Fel pan ddêl arnaf bob rhyw dro, Y byddwyf byth o fewn dy go’, Na byddo arnaf unrhyw faich Ond a fo’n pwyso ar dy fraich. O! gwna fy nghariad innau’n rhydd I […]