Cytgan:
Mewn llawenydd yr âf allan,
Ac mewn heddwch caf fy arwain,
Mynyddoedd a bryniau yn
Bloeddio canu o’m blaen.
Mewn llawenydd yr âf allan,
Ac mewn heddwch caf fy arwain,
Holl goedwig y meysydd
Yn curo dwylo o’m blaen.
Pen 1:
Fel hyn mae y gair a ddaw o’th enau,
Nid yw’n dychwel atat ti yn ofer,
Mae’n cyflawni popeth a fwriedaist,
Mi ddilynai ti yn llawn o hyder!
Cytgan
Pen 2
Am fy mod yn werthfawr yn dy olwg,
Nid wy’n ofni dim a ddaw i’m rhan i,
Rwyt ti’n addo peidio byth a ‘ngadael,
A dy fod ti wastad yn fy ngharu!
Cytgan
(O Eseia 55 ad.11-12
Eseia 49 ad.15-16)
© 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
PowerPoint PDF English Words MP3