logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mi af ymlaen yn nerth y nef

Mi af ymlaen yn nerth y nef
tua’r paradwysaidd dir,
ac ni orffwysaf nes cael gweld
fy etifeddiaeth bur.

Mae llais yn galw i maes o’r byd
a’i bleser o bob rhyw;
minnau wrandawa’r hyfryd sŵn
llais fy Anwylyd yw.

‘Dwy’n gweld ar aswy nac ar dde,
‘mhlith holl wrthrychau’r byd,
ddim dâl ymddiried yn ei nerth
na rhoddi arno ‘mryd.

Iesu yw tegwch mawr y byd
a thegwch penna’r nef,
ac y mae’r cwbwl sydd o werth
yn trigo ynddo ef.

A boed fy mhleser bellach byth
o dan ei adain wiw;
na foed difyrrwch gennyf mwy
mewn dim ond yn fy Nuw.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 289)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015