logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mi glywaf dyner lais

Mi glywaf dyner lais
yn galw arnaf fi
i ddod a golchi ‘meiau i gyd
yn afon Calfari.

Arglwydd, dyma fi
     ar dy alwad di,
canna f’enaid yn y gwaed
     a gaed ar Galfarî.

Yr Iesu sy’n fy ngwadd
i dderbyn gyda’i saint
ffydd, gobaith, cariad pur a hedd
a phob rhyw nefol fraint.

Yr Iesu sy’n cryfhau
o’m mewn ei waith drwy ras;
mae’n rhoddi nerth i’m henaid gwan
i faeddu ‘mhechod cas.

Gogoniant byth am drefn
y cymod a’r glanhad;
derbyniaf Iesu fel yr wyf
a chanaf am y gwaed.

LEWIS HARTSOUGH, 1828-1919 (I hear Thy welcome voice)  cyf. IEUAN GWYLLT, 1822-77

(Caneuon Ffydd 483)

PowerPoint youtube