Mi glywais lais yr Iesu’n dweud,
“Tyrd ataf fi yn awr,
flinderog un, cei ar fy mron
roi pwys dy ben i lawr.”
Mi ddeuthum at yr Iesu cu
yn llwythog, dan fy nghlwyf;
gorffwysfa gefais ynddo ef
a dedwydd, dedwydd wyf.
Mi glywais lais yr Iesu’n dweud,
“Mae gennyf fi yn rhad
y dyfroedd byw; sychedig un,
o’u profi cei iachâd.”
At Iesu deuthum, profi wnes
o’r ffrydiau sy’n bywhau;
fy syched ddarfu: ynddo ef
‘rwy’n byw dan lawenhau.
Mi glywais lais yr Iesu’n dweud,
“Goleuni’r byd wyf fi,
tro arnaf d’olwg, tyr y wawr
a dydd a fydd i ti.”
At Iesu deuthum, ac efe
fy haul a’m seren yw;
yng ngolau’r bywyd rhodio wnaf
nes dod i gartre ‘Nuw.
HORATIUS BONAR, 1808-89 (I heard the voice of Jesus say)
cyf. Y CANIEDYDD CYNULLEIDFAOL NEWYDD, 1921
(Caneuon Ffydd 774)
PowerPoint