Mi welaf ym medydd fy Arglwydd
ogoniant gwir grefydd y groes,
y claddu a’r codi’n Dduw cadarn
‘r ôl gorffen ei lafur a’i loes:
mae’n ddarlun o angau’r Cyfryngwr
a dyfnder ei drallod a’i boen;
mae Seion yn cadw’r portread
i gofio am gariad yr Oen.
ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81
(Caneuon Ffydd 650)
PowerPoint