Cofio ‘rwyf yr awr ryfeddol, awr wirfoddol oedd i fod, awr a nodwyd cyn bod Eden, awr a’i diben wedi dod, awr ŵynebu ar un aberth, awr fy Nuw i wirio’i nerth, hen awr annwyl prynu’r enaid, awr y gwaed, pwy ŵyr ei gwerth? ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 512)
Mi welaf ym medydd fy Arglwydd ogoniant gwir grefydd y groes, y claddu a’r codi’n Dduw cadarn ‘r ôl gorffen ei lafur a’i loes: mae’n ddarlun o angau’r Cyfryngwr a dyfnder ei drallod a’i boen; mae Seion yn cadw’r portread i gofio am gariad yr Oen. ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 650)