Molwn di, O Arglwydd, Iôr hollalluog,
dengys bryniau oesol in dy gadernid mawr;
yn dy ddawn i faddau, tyner a thrugarog,
codi o’r dyfnder wnei drueiniaid llawr.
Gyfiawn, sanctaidd Arglwydd, ger bron dy burdeb,
gwylaidd yw y nefoedd yn ei sancteiddiaf fri;
golau claer dy ŵyneb loywa dragwyddoldeb,
mola’r holl nefoedd dy ogoniant di.
Cofiwn, dirion Arglwydd, dy gydymdeimlad,
dyma hafan dawel rhag storm i eiddil gwan;
tyr ar draeth ein heisiau fôr dy ryfedd gariad,
dafnau daioni a eneinia’r lan.
Tyrd, O Arglwydd grasol, tyrd i’n calonnau,
tyn o dannau’n bywyd glod i’th ryfeddol ddawn;
moliant pawb fo iti drwy’r holl genedlaethau,
uned i’th ganmol nef a daear lawn.
CERNYW, 1843-1937
(Caneuon Ffydd 218)
PowerPoint