Molwn di, O Dduw ein tadau,
uchel ŵyl o foliant yw;
awn i mewn i’th byrth â diolch
ac offrymwn ebyrth byw;
cofiwn waith dy ddwylo arnom
a’th amddiffyn dros ein gwlad;
tithau, o’th breswylfa sanctaidd,
gwêl a derbyn ein mawrhad.
Ti â chariad Tad a’n ceraist
yn yr oesoedd bore draw,
o dywyllwch i oleuni
fe’n tywysaist yn dy law;
cawsom di ymhob cenhedlaeth
fel dy enw’n gadarn Iôr,
cysgod gwell na’r bryniau uchel
ac na chedyrn donnau’r môr.
Cudd ni eto dan dy adain
a bydd inni’n fur o dân,
tywys di ein tywysogion
megis gynt â’th Ysbryd Glân;
pâr i’n cenedl annwyl rodio
yn dy ofn o oes i oes
gyda’i ffydd yng ngair y cymod,
gyda’i hymffrost yn y groes.
EIFION WYN, 1867-1926
(Caneuon Ffydd 197)
PowerPoint