Nid oes gobaith i mi mwy
Tra bo ‘mhechod yn rhoi clwy,
Tra bo ‘nghalon heb ddim gras
Ar ymffrostio yn cael blas.
Sanctaidd Dad, O clyw fy llef,
Rho im hiraeth am y nef,
Dal fi yn y cariad drud
Nes y byddwyf lân i gyd.
Nid oes neb a’m deil i’r lan
Tra caiff pechod ynof ran;
Pethau’r byd sy’n syrthio i lawr,
Angen f’enaid i sydd fawr.
Tyred ataf, Iesu da,
Wrth un aflan trugarha;
Dal fi yn y cariad drud
Nes y byddwyf lân i gyd.
Nid wy’n cael y ffordd yn glir,
Nid wy’n gweld y nefol dir;
Y mae’r niwloedd yn crynhoi
A’m llawenydd oll yn ffoi.
Arwain fi, O Ysbryd Glân,
Arwain fi drwy niwl a thân.
Dal fi yn y cariad drud
Nes y byddwyf lân i gyd.
W. Rhys Nicholas © Richard E. Huws, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
PowerPoint