[Pennill 1]
Nid yn fy eiddo oll mae ’ngwerth
Nac yn fy ngallu, bri, na’m nerth,
Ond yng nghlwyfau costus cariad pur
Ar y groes.
[Pennill 2]
Fy ngwerth, nid dawn nac enw yw
Nac ymffrost, gwarth na’m ffordd o fyw,
Ond yn Ei waed a lifodd gynt
Ar y groes.
[Cytgan]
Llawenhau wnaf yn fy Mhrynwr –
Drysor Gwerthfawr
Tarddle f’enaid gwan.
Nid mewn dim ’mond yn f’Achubwr
Bodlonwyd f’enaid – Crist yw’m Rhi a’m rhan.
[Pennill 3]
Fel blodau’r haf diflannu wnawn,
Clod, i’enctid, hoen fel byr brynhawn,
Ond bywyd bythol eilw’n glir
Ar y groes.
[Pennill 4]
Ni froliaf fyth mewn aur neu fri
Yng ngallu dyn, ei rwysg na’i ru,
Ymffrostio wnaf yn f’annwyl Grist
Ar y groes.
Cyffesaf ddau ryfeddod mwy’ –
Fy ngwerth a’m hannheilyngdod llwyr;
Fy nyled – talodd Crist hi’n llawn
Ar y groes.
Nid yn fy eiddo oll mae ’ngwerth
My worth is not in what I own (Graham Kendrick, Keith Getty a Kristyn Getty)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2014 Getty Music Publishing (Gwein. gan Music Services/Song Solutions www.songsolutions.org) ThankYou Music.
© 2014 Make Way Music (www.grahamkendrick.co.uk)
Cedwir pob hawl. Defnyddir trwy ganiatâd.
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint